Ciw-restr

Merched y Mwmbwls

Llinellau gan Sali Wat (Cyfanswm: 20)

 
(1, 0) 112 Odi'r bad wedi mynd?
 
(1, 0) 115 Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw."
(1, 0) 116 Roedd Gwenno yn meddwl 'mod i yn mynd i aros yn y gwely, ond dim o'r fath beth.
(1, 0) 117 Ni aeth y bad mâs erioed o'r blaen heb 'mod i yma.
(1, 0) 118 Y fi oedd yma gynta' ar y noson ofnadwy honno bymtheng mlynedd yn ol pan aeth William ni yn y bad, ond ddaeth e', na llawer un arall, byth yn ol.
(1, 0) 119 Ni fydd fy amser i yn faith eto, fe groesa i 'r afon cyn bo hir.
 
(1, 0) 339 Dyna 'r ffordd.
(1, 0) 340 Eto!
(1, 0) 341 Eto!
(1, 0) 342 O, diolch i'r nefoedd!
 
(1, 0) 345 Fe dynnaf i â'r anadl ola i gael y merched 'nol, gwnaf yn wir!
 
(1, 0) 386 Dere, Shan, cer â fi lawr at y dŵr.
(1, 0) 387 Fe fydd eisieu shawls ar y merched wedi bod yn y dŵr.
 
(1, 0) 426 Mae'n |shawl| i gyda Bess.
 
(1, 0) 444 Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed?
(1, 0) 445 Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd.
 
(1, 0) 448 Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto.
(1, 0) 449 Mae stormydd bywyd bron â dod i ben, ac er bod y cwch bach yma wedi taro yn aml yn erbyn y graig, mae'r Bywyd-fad gerllaw i fynd â fi i'r Hafan Dawel.
(1, 0) 450 Fe ddaw y bad, heb fod yn hir─a fe fydd y Pen-Capten wrth y llyw─ar ryw noson, yn sŵn y storm, i'm mofyn i adre, ond 'rwy'n falch Ei fod wedi'm gadael yma hyd heno, i mi gael gweld dewrder Bess a Mari; a phan gwrdda i â'u tad a'u mam ar y lan draw, dyna stori fydd gen i i ddweyd wrthynt am eu plant.
(1, 0) 451 Bendigedig!